Mae fersiynau wedi’u cyfieithu o’n dogfennaeth er hwylustod defnyddwyr, fersiynau Saesneg sy’n cael y flaenoriaeth.

Datganiad hygyrchedd ar gyfer y Nursery Milk Scheme

Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i’r wefan y Nursery Milk Scheme (nurserymilk.co.uk).

Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan yr NHS Business Services Authority gan ddefnyddio contractwr preifat. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosib allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i’r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • llywio’r drwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio’r drwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan drwy ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio (yn agor mewn tab newydd) os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Rydym yn ymwybodol nad yw rhannau o’r wefan yn gwbl hygyrch oherwydd ni ellir rhyngweithio â rhai meysydd mewnbwn testun yn uniongyrchol gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais rheoli llais gan ddefnyddio gorchymyn ‘clic’ wrth ddefnyddio Voice Control ar Mac.

Sut i wneud cais am gynnwys mewn fformat hygyrch

Os ydych chi angen gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol, er enghraifft, PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd i’w ddarllen, recordiad sain, neu braille, gallwch gysylltu â ni drwy E-bost:

accessibility@nhsbsa.nhs.uk

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Mae’r mewnflwch hwn ar gyfer ymholiadau hygyrchedd yn unig. Nid yw’r mewnflwch hwn ar gyfer ymholiadau technegol neu broblemau TG. Os oes gennych ymholiad nad yw’n ymwneud â hygyrchedd, ewch i’r adran ‘Cysylltwch â ni’ ar y dudalen hon.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym wastad yn chwilio am ffyrdd newydd o wella hygyrchedd ar y wefan. Os ydych yn dod ar draws problem sydd ddim yn cael ei rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych yn teimlo nad ydym yn cwrdd â’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni drwy E-bost:

accessibility@nhsbsa.nhs.uk

Mae’r mewnflwch hwn ar gyfer ymholiadau hygyrchedd yn unig. Nid yw’r mewnflwch hwn ar gyfer ymholiadau technegol neu broblemau TG. Os oes gennych ymholiad nad yw’n ymwneud â hygyrchedd, ewch i’r adran ‘Cysylltwch â ni’ ar y dudalen hon

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).

Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Equality Advisory and Support Service (EASS) (yn agor mewn tab newydd).

Cysylltu â ni

Ar gyfer pob ymholiad nad yw’n ymwneud â hygyrchedd, gallwch gysylltu â ni trwy e-bost:

info@nurserymilk.co.uk

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae’r NHS Business Services Authority wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfiaeth

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol gyda safon AA Web Content Accessibility Guidelines version 2.1 (yn agor mewn tab newydd) yn sgil yr hyn nad yw’n cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys sydd wedi ei nodi isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Ni ellir rhyngweithio â rhai meysydd mewnbwn testun yn uniongyrchol gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais rheoli llais gan ddefnyddio gorchymyn ‘clic’ wrth ddefnyddio Voice Control ar Mac. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.1 4.1.2 (Enw, Rôl, Gwerth).

Nid oes unrhyw gynllun i drwsio hyn gan y byddai’r newidiadau sydd eu hangen yn debygol o achosi problemau i’r rhai sy’n defnyddio technolegau cynorthwyol eraill fel darllenwyr sgrin.

Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys gwefan newydd byddwn yn sicrhau ei fod yn bodloni safonau hygyrchedd

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y wefan hon yn cydymffurfio â safon WCAG 2.1 ‘AA’.

Bydd ein datganiad cydymffurfio hygyrchedd yn cael ei adolygu bob 12 mis. Bydd pob newid gwefan newydd a ryddheir yn cael ei ddylunio, ei adeiladu a’i brofi i fodloni safonau ‘AA’ yn ddiofyn.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 24 Awst 2022. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 11 Ionawr 2024.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 13 Medi 2023. Cynhaliwyd y prawf gan y contractwr preifat a thimau profi a datblygu NHSBSA.

Profwyd holl sgriniau’r wefan i fodloni safonau WCAG 2.1. defnyddio profion llaw ac awtomataidd.

Rydym yn rhedeg pob tudalen we trwy offer hygyrchedd Wave, Lighthouse ac Axe awtomataidd ac yna’n profi â llaw gyda darllenwyr sgrin (NVDA neu VoiceOver) a rhestrau gwirio safonau.

Rydym yn cynnal profion taith defnyddwyr cynrychioliadol trwy feddalwedd adnabod lleferydd (Dragon neu Voice Control).

Mae’r rhestrau gwirio hyn yn cynnwys safonau sydd wedi’u llunio gan ddefnyddio WCAG, llawlyfr gwasanaeth yr NHS a chanllawiau y Government Digital Service (GDS)